Mae cynghorau wedi galw am gyfyngiadau cyfreithiol llymach er mwyn atal damweiniau sy’n gysylltiedig ag yfed a gyrru yng Nghymru a Lloegr.

Ar hyn o bryd, mae gyrru â chrynodiad uwch nag 80mg o alcohol i bob 100ml o waed yn anghyfreithlon, ond mae’r Gymdeithas Lywodraeth Leol am weld y rhicyn yn cael ei leihau i 50mg.

Ym mis Rhagfyr 2014, fe gafodd y lefel derbyniol ei leihau i 50mg gan Lywodraeth yr Alban, ac mae Gogledd Iwerddon am ddilyn ôl traed eu cefndryd Celtaidd yn fuan.

Uchaf yn Ewrop

Gan eithrio Malta – sydd ar fin lleihau ei lefel yfed a gyrru – Cymru a Lloegr sydd â’r rhicyn uchaf yn Ewrop, yn ôl y Gymdeithas Llywodraeth Leol.

“Yn fuan, Cymru a Lloegr fydd â’r cyfyngiadau yfed a gyrru mwyaf llac yn Ewrop, a dyw hyn ddim yn rhoi neges dda i fodurwyr ac ymgyrchwyr diogelwch,” meddai Cadeirydd un o Fyrddau’r Gymdeithas Llywodraeth Leol, Simon Blackburn.

“Dylai fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain y ffordd trwy wneud cyfreithiau yfed a gyrru yn llymach yn debyg i nifer o wledydd Ewropeaidd eraill, gan arbed bywydau a gwneud heolydd yn saffach.”