James Bond
Mae Gwasanaethau Cudd Llywodraeth Prydain wedi talu i ddangos hysbysebion mewn sinemâu, er mwyn ceisio denu mwy o ferched a phobol o leiafrifoedd ethnig i’w rhengoedd.
Yn yr hysbyseb bydd gwerthwr blodau yn dangos y sgiliau sydd eu hangen er mwyn gweithio i MI6.
Maen nhw yn chwilio am bobol sy’n medru delio â sefyllfaoedd sensitif a rhai sy’n medru darllen emosiynau pobol eraill yn syth bin.
Bydd yr hysbyseb yn cael ei ddangos yn Lloegr.
Bob blwyddyn mae miloedd yn ceisio am lai na 100 o swyddi gwag gyda’r Gwasanaethau Cudd, ond mae rheolwyr MI6 eisiau recriwtio pobol o gefndiroedd amrywiol.
Mae disgwyl i swyddogion cudd dargedu unigolyn sydd â mynediad at wybodaeth gyfrinachol a meithrin perthynas dda gydag eraill yn y maes.
Rhaid bod gan ymgeiswyr radd 2:2 neu uwch a diddordeb mewn materion tramor.
Mae disgwyl i staff MI6 dyfu o’r 2,500 presennol i 3,500 erbyn 2020.
Ceir gwybodaeth am swyddi MI6 ar eu gwefan www.mi6.gov.uk