Mae cosbau llymach ar gyfer defnyddio ffôn symudol wrth y llyw wedi cael eu cyflwyno.

Mae’r gosb wedi dyblu i chwe phwynt a dirwy o £200, gyda gyrwyr newydd yn wynebu’r posibilrwydd o gael diddymu eu trwydded ar unwaith.

Gall gyrwyr newydd gael diddymu eu trwydded os ydyn nhw’n casglu chwe phwynt yn ystod y ddwy flynedd gyntaf – a gallai anfon un neges destun arwain at hynny bellach.

Gall gyrwyr mwy profiadol gael diddymu eu trwydded os ydyn nhw’n casglu 12 pwynt dros gyfnod o dair blynedd.

Arweiniodd y defnydd o ffôn symudol at 22 o farwolaethau a 99 o anafiadau difrifol ar ffyrdd gwledydd Prydain yn 2015.

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, Chris Grayling fod y defnydd o ffôn symudol wrth y llyw “yr un mor anfaddeuol ag yfed a gyrru”.

Fe fydd yr AA yn cynnal ymgyrch dros y mis nesaf i godi ymwybyddiaeth o beryglon defnyddio ffôn symudol wrth y llyw.

Yn ôl arolwg gan yr RAC, mae 26% o yrwyr yn cyfaddef iddyn nhw edrych ar eu ffôn wrth iddyn nhw yrru.