Y Trysorlys Llun: PA
Mae adrannau Whitehall wedi clywed y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud arbedion hyd at 6% fel rhan o gynlluniau i arbed £3.5 biliwn o wariant cyhoeddus.
Fe fydd arbedion mewn llywodraeth leol yn cael ei ddefnyddio i gwrdd â’r pwysau sydd ar wasanaethau gofal cymdeithasol, yn ôl y Trysorlys.
Ni fydd cyllidebau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol nac ysgolion yn cael eu heffeithio ac fe fydd y Llywodraeth yn parhau i wario o leiaf 2% o’r incwm cenedlaethol ar amddiffyn.