Storm Doris Llun: Y Swyddfa Dywydd
Mae dyn yn ei wythdegau a gafodd ei anafu ar ôl i goeden gwympo ar gar yn ystod Storm Doris wedi marw yn yr ysbyty.

Bu farw’r pensiynwr yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke ar ddydd Sul, tri diwrnod wedi i’r car yr oedd yn teithio ynddo gael ei daro gan goeden ger Church Stretton yn Sir Amwythig.

Roedd y dyn, sydd heb gael ei enwi gan yr heddlu, yn eistedd yn sedd flaen y car a oedd yn cael ei yrru gan ddyn 75 oed.

Cafodd gyrrwr y car ei gludo i Ysbyty Brenhinol Sir Amwythig pan ddaeth i’r amlwg ei fod â phoenau yn ei wddf a’i frest, ond ni chafodd gwraig y dyn fu farw – a oedd yn eistedd yng nghefn y car – ei hanafu.

Dyma’r ail berson i farw yn sgil Storm Doris wythnos ddiwethaf. Bu farw Tahnie Martin yn Wolverhampton wedi i ddarn o bren daro ei phen yn ystod stormydd cryfion.