Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae ymgais ar waith i ddisodli Jeremy Corbyn fel arweinydd y Blaid Lafur, yn ôl un o’i gynghreiriaid agosaf.

Mewn erthygl ar wefan briffio’r blaid mae Canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, yn cyfeirio at ‘gynllwyn’ sy’n cyfuno elfennau o’r blaid Lafur a chyfryngau Murdoch.

Dywed fod ‘cynllwynwyr’ yn barod i roi eu seddi a dyfodol y blaid mewn perygl er mwyn disodli Jeremy Corbyn.

Daw ei sylwadau wedi i’r cyn-weinidog, yr Arglwydd Mandelson, ddatgelu’r wythnos diwethaf ei fod yn “gweithio pob dydd” i geisio dirwyn arweinyddiaeth Jeremy Corbyn i ben.

‘Hollt’ Llafur

“Mae’n rhaid inni godi ymwybyddiaeth aelodau a chefnogwyr y blaid fod ymgais ar droed,” meddai John McDonnell.

“Mae wedi’i gynllunio, ei gydlynu ac mae’n llawn ffynonellau.”

“Mae hyn hefyd yn bwydo ac yn cadarnhau ymysg y cyhoedd fod hollt yn y blaid lafur,” meddai wedyn.