Mae’r SNP wedi beirniadu Maer Llundain am sylwadau sy’n cymharu cenedlaetholdeb yr Alban â hiliaeth.

Wrth ganmol yr Alban a Llundain am bleidleisio yn erbyn Brexit, dywed Sadiq Khan mewn erthygl ym mhapur newydd y Daily Record ar drothwy cynhadledd Llafur yr Alban:

“Does dim gwahaniaeth rhwng y rheini sy’n ceisio’n rhannu ni ar y sail os ydyn ni’n Saeson neu Albanwyr a’r rhein sy’n ceisio’n rhannu ni ar sail ein cefndir, hil neu grefydd.

“Y ffordd i wrthsefyll Brexit ac ymchwydd pleidiau popiwlist asgell dde yw nid ceisio rhedeg i ffwrdd, torri’n rhydd neu wthio’n cymdogion i ffwrdd.

“Nawr yw’r amser i adeiladu undod, creu Teyrnas fwy Unedig a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i lwyddo.”

Mewn ymateb i’w sylwadau, meddai llefarydd ar ran yr SNP:
“Mae Sadiq Khan yn iawn i dynnu sylw at beryglon rhagfarn – ond mae’n hynod o annoeth cymharu cefnogwyr annibyniaeth yr Alban i Trump neu gefnogwyr Brexit, ac yn wir, mae’n sarhad i lawer o bleidleiswyr presennol a chyn-bleidleiswyr Llafur.

“Dim ond llywodraeth yr SNP sy’n rhoi gwrthwynebiad cryf ac egwyddorol i obsesiwn Brexit caled y Torïaid, tra bod Llafur yn chwifio’r faner wen i’r Brexiteers a’u agenda asgell dde.”