Fe wnaeth yr ymgyrchwyr tros aros yn yr Undeb Ewropeaidd wario dros £5 miliwn yn fwy na’r criw Brexit yn y refferendwm fis Mehefin diwethaf.

Mae ymchwiliadau wedi dechrau i edrych ar wariant y ddau ymgyrch ar ôl i’r Comisiwn Etholiadol ganfod eu bod wedi methu â rhoi’r wybodaeth gyflawn am eu cyllidebau.

Mae’r ffigurau’n dangos bod dros £32 miliwn wedi ei wario ar yr ymgyrch, gan olygu mai’r frwydr Brexit oedd yr ymgyrch refferendwm mwya’ drud yn hanes gwleidyddol Prydain.

Roedd manylion grwpiau a wariodd £250,000 neu’n fwy, a gafodd eu cyhoeddi heddiw, yn dangos bod y prif ymgyrchoedd i Aros wedi gwario £16.2 miliwn, o gymharu â £11.5 miliwn ar ochr yr ymgyrchoedd Gadael.

Gadael wedi cael mwy o roddion

Mae’n debyg cafodd yr ymgyrch Gadael fwy o roddion ariannol, sef £16.4 miliwn, o gymharu â £15.1 miliwn o roddion i’r ochr Aros.

Cafodd y ddau brif ymgyrch £600,000 yr un gan arian trethdalwyr hefyd i’w helpu i ariannu eu hymgyrchoedd.

Yn dilyn un ymchwiliad o wario’r ddau grŵp, fe ddaeth y Comisiwn i’r canfyddiad nad oedd ‘Yn Gryfach i Mewn’  na ‘Vote Leave’ wedi cyflwyno’r holl anfonebau angenrheidiol i gefnogi eu cyfrifon.

Dywedodd cyfarwyddwr ariannu gwleidyddol y Comisiwn, Bob Posner, fod manylion sydd ar goll yn eu ffurflenni gwario yn “tanseilio tryloywder.”