Mae dyn wedi ei garcharu am chwe blynedd wedi iddo ladd cyn-fanciwr ar ôl ei daro unwaith gyda’i ddwrn.

Roedd gan Trevor Timon, 31, hanes treisgar cyn yr ymosodiad ar Oliver Dearlove, 31 yn ne-ddwyrain Lloegr fis Awst diwethaf.

Roedd y dyn o Lundain wedi cyfaddef i ddynladdiad ac fe gafwyd ef yn ddieuog o lofruddio yn dilyn gwrandawiad yn llys yr Old Bailey.

Cafodd ddedfryd o chwe blynedd yn y carchar, gyda phum mlynedd arall ar drwydded estynedig gan ei fod yn “beryg sylweddol” i’r cyhoedd.

Roedd cariad Oliver Dearlove, Claire Wheatley, yn ei dagrau wrth iddi ddisgrifio ei thor-calon wedi iddi golli ei chymar.

Mewn llythyr a gafodd ei ddarllen yn y llys, dywedodd Trevor Timon nad oes “un diwrnod yn mynd heibio” pan nad yw’n “meddwl am Oliver, ei ffrindiau a’i deulu a’r effeithiau dinistriol mae fy ymddygiad wedi achosi”.