Paul Nuttall
Mae’n bosib y bydd yn rhaid i UKIP aros am 20 mlynedd arall tan eu bod yn ennill isetholiad, yn ôl cadeirydd y blaid.

Fe fethodd UKIP ag ennill yr isetholiad ddoe Stoke-on-Trent, er iddyn nhw dargedu’r sedd.

Arweinydd y blaid, Paul Nuttall wnaeth gystadlu yn yr etholaeth. Ond fe lwyddodd y Blaid Lafur i ddal ei gafael yn y sedd gyda mwyafrif o 2,620.

Roedd pobol Stoke wedi pleidleisio o blaid Brexit ac roedd nifer yn ffyddiog y byddai UKIP yn gallu ennill y sedd.

“Mae pethau’n cymryd amser maith ym myd gwleidyddiaeth. Cymerodd hi 23 blynedd i ni ennill refferendwm i ddod allan o’r Undeb Ewropeaidd. Efallai wneith hi gymryd yr un faint o amser i ennill sedd yn San Steffan trwy isetholiad” meddai cadeirydd UKIP, Paul Oakden ar raglen Today BBC Radio 4.

Roedd Paul Oakden hefyd yn mynnu bod gan Paul Nuttall gefnogaeth y blaid a chymeradwyodd y Blaid Lafur am eu hymgyrch “gref ac effeithiol”.