Trudy Harrison, enillydd Copeland, a'i gwr (Peter Byrne/Gwifren PA)
Fe fydd y pwysau’n cynyddu ar arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ar ôl i’w blaid golli un o ddwy sedd saff yn yr isetholiadau ddoe.

Er eu bod wedi llwyddo i ddal gafael ar ganol Stoke on Trent, fe gollodd Llafur sedd Copeland yng ngogledd-orllewin Lloegr – sedd oedd yn cael ei hystyried yn saff.

Y Ceidwadwyr a enillodd – y tro cynta’ i blaid lywodraeth ennill sedd isetholiad ers 1982, cyfnod arall pan oedd Llafur mewn trafferthion mawr.

‘Effaith Corbyn’ oedd yn gyfrifol

Yn Copeland – lle mae gwaith niwclear mawr Sellafield – fe lwyddodd y Ceidwadwyr i godi eu siâr o’r bleidlais o 8% tra bod cyfran Llafur wedi syrthio o 5%.

Roedd yr enillydd, Trudy Harrison, yn dweud mai ‘effaith Corbyn’ oedd yn gyfrifol – roedd pobol yn dweud wrthi, meddai, nad oedd yr arweinydd Llafur “yn eu cynrychioli nhw”.

Roedd Llafur wedi dal yr union sedd ers 1983 a fersiynau cynharach ohoni ers mwy nag 80 mlynedd.

Eisoes, mae un o lefarwyr Jeremy Corbyn wedi dweud na ddylai Llafur ddechrau dadlau’n fewnol unwaith eto.

Stoke – Nuttall yn methu

Mae’n bosib y bydd arweinydd UKIP, Paul Nuttall, hefyd yn dod dan bwysau ar ôl iddo fethu â chipio sedd canol Stoke on Trent oddi ar Lafur.

Yno yr oedd pobol wedi disgwyl canlyniad mawr ond fe lwyddodd Llafur i gadw’r sedd yn gymharol gyfforddus – roedd eu pleidlais i lawr 2% a phleidlais UKIP i fyny 2.

Wrth groesawu’r canlyniad hwnnw, fe ddywedodd Jeremy Coprbyn fod y pleidleiswyr wedi gwrthod “gwleidyddiaeth UKIP o rannu ac anonestrwydd”.

Roedd Paul Nuttall wedi cael helynt tros hen ddatganiad celwyddog ar ei wefan ac am honni’n anghywir fod ganddo dŷ yn yr ardal.