Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb yn chwyrn i’r newyddion fod y BBC yn yr Alban am fuddsoddi bron i £20m y flwyddyn mewn sianel deledu newydd ac ehangu gwasanaethau yn yr iaith Aeleg.

Fe fu’r mudiad yn galw ers tro am ddatganoli darlledu i Lywodraeth Cymru, gan ddadlau y byddai modd sefydlu rhagor o sianeli teledu a gorsafoedd radio Cymraeg.

Mae’r cynlluniau yn yr Alban yn cael eu disgrifio fel y “buddsoddiad unigol mwyaf” yn y Gorfforaeth yn yr Alban ers ugain mlynedd.

Bydd y sianel newydd yn darlledu rhaglenni bob nos, gan gynnwys rhaglen newyddion awr o hyd, fydd yn rhoi sylw i newyddion Albanaidd, Prydeinig a rhyngwladol.

Mae’r BBC yn buddsoddi £19m y flwyddyn am dair blynedd hyd at 2019 er mwyn ariannu’r sianel a fydd ar gael ar Sky, Freeview, ar-lein ac ar iPlayer.  Bydd £1.2m yn ychwanegol yn mynd at BBC Alba er mwyn ehangau’r ddarpariaeth yn yr iaith Aeleg.

Mae disgwyl i’r gwasanaethau newydd arwain at greu hyd at 80 o swyddi newyddiadurol.

‘Briwsion’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf fod “sianel newydd i’r Alban… a dim ond briwsion i ni yng Nghymru”.

“Mae’r BBC yn ceisio traflyncu S4C ac wedi cynorthwyo’r Llywodraeth Geidwadol i dorri ein hunig sianel deledu Gymraeg,” meddai wedyn.

“Chawn ni ddim tegwch i’r Gymraeg na Chymru os yw darlledu yn parhau i gael ei reoli gan Lundain, mae’n bryd datganoli darlledu.

“Yn dilyn y newyddion yma, mae’n debyg y bydd mwy a mwy o bobol yn ymuno â’n hymgyrch i wrthod talu’r ffi drwydded.”