Mae Arron Banks, y dyn y tu ôl i blaid UKIP, wedi dweud eto ei fod “wedi syrffedu” ar glywed pobol yn sôn am drychineb Hillsborough.

Fe dynnodd arweinydd y blaid, Paul Nuttall, nyth cacwn yn ei ben yn gynharach y mis hwn wedi iddi ddod yn amlwg iddo ddweud celwydd am golli ffrind agos yn y drychineb yn 1989 lle bu farw 96 o gefnogwyr tim Lerpwl. Fe ddaeth galwadau arno i ymddiswyddo o fod yn Aelod o Senedd Ewrop.

Ond mae Arron Banks wedi taro’n ôl ar wefan gymdeithasol Twitter.

“Roedd hi’n drychineb, a dyna ni, nid rhyw ddigwyddiad diwylliannol,” meddai ar Chwefror 14, cyn trafod y mater ar radio hefyd.

“Dw i’n gwybod fod pobol yn Lerpal yn gwylltio wrth weld rhai sylwadau, ond dw i’n glynu wrth yr hyn ddywedais i,” meddai wedyn. “Allwn ni ddim mynd ymlaen ac ymlaen am byth am bethau fel hyn, allwn ni?”

Ddydd Llun, fe ymddiswyddodd dau o swyddogion plaid UKIP yn Lerpwl oherwydd y modd “ansensitif ofnadwy” y cafodd trychineb Hillsborough ei drin gan y blaid.

“Dw i’n meddwl bod yn rhaid i wleidyddion a phobol sy’n gysylltiedig â gwleidyddion, ddweud yr hyn sydd ar eu meddyliau, yn hytrach na’r hyn y maen nhw’n feddwl y mae pobol eisiau ei glywed,” meddai Arron Banks.

“Os ydi pethau’n mynd o chwith o dro i dro oherwydd hynny, wel, dyna ni…”