Cyplau o’r un rhyw yn unig sy’n gymwys i gael Partneriaeth Sifil (Llun: PA)
Mae cwpl heterorywiol sydd am gydnabod eu perthynas fel Partneriaeth Sifil wedi dweud y byddan nhw’n mynd â’u hachos i’r Goruchaf Lys.
Fe gollodd Rebecca Steinfeld, 35 oed, a Charles Keidan, 40 oed, eu hachos yn y Llys Apêl heddiw, am fod cydnabyddiaeth Partneriaeth Sifil yn nodi mai cyplau o’r un rhyw yn unig sy’n gymwys.
Ond mae’r academyddion o Hammersmith yng ngorllewin Llundain wedi dweud y byddan nhw’n dal ati i frwydro am y gydnabyddiaeth honno am eu bod nhw’n ymwrthod â phriodas.
Paratoi i apelio
Fe ddaeth Llys yr Apêl i’r casgliad eu bod nhw wedi sefydlu newid posib i Erthygl 15 o’r cytundeb Ewropeaidd o ran gwahaniaethu ar sail bywyd teuluol a phreifat.
Ond fe ddywedodd y rhan fwyaf o’r barnwyr fod y gyfraith yn cael ei gyfiawnhau ym mholisi’r Llywodraeth.
Am hynny, dywedodd cyfreithiwr ar ran y cwpwl eu bod yn aros am ymateb gan Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth Prydain, ac yn paratoi cais i apelio yn y Goruchaf Lys.