Maes Awyr Heathrow
Mae pum protestiwr wedi eu harestio am geisio atal ceir rhag teithio ar hyd ffordd ym maes awyr Heathrow.

Cafodd y pump eu harestio ar ôl cynnal protest am dair awr gan orfodi maes awyr prysuraf y Deyrnas Unedig i gau twnnel fore dydd Mawrth.

Mae’r grŵp ymgyrchu, Rising Up!, yn protestio yn erbyn cynlluniau i ehangu’r maes awyr trwy adeiladu trydedd lain lanio. Maen nhw’n dadlau y bydd ehangu’r maes awyr yn cael effaith andwyol ar yr hinsawdd.

Roedd tri phrotestiwr wedi cadwyno eu hunain at gar tra bod dau berson arall yn eistedd mewn cerbydau gan rwystro’r ffordd rhwng terfynfa dau a thri.

Cafodd y pump, pedwar dyn a dynes, eu harestio am rwystro ffordd, meddai’r heddlu, gan ychwanegu bod un o’r dynion wedi cael eu cludo i’r ysbyty fel “rhagofal.”

Dywedodd llefarydd ar ran y maes awyr yng ngorllewin Llundain bod y brotest wedi achosi problemau traffig yn yr ardal ond nad oedd “yn ymddangos bod unrhyw hediadau wedi’u heffeithio.”