Mae dyn yn yr ysbyty yn Swydd Essex ar ôl cael ei saethu ger safle lle’r oedd gornest baffio’n cael ei chynnal.

Cafodd yr heddlu eu galw i faes parcio yn Brentwood toc cyn canol nos neithiwr yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei saethu yn ei ysgwydd.

Dydy ei fywyd ddim mewn perygl, yn ôl adroddiadau.

Mae Heddlu Swydd Essex yn apelio am wybodaeth.