Theresa May a Donald Trump yn yr Unol Daleithiau (Llun: PA)
Mae Maer Llundain, Sadiq Khan wedi dweud y dylid atal Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump rhag ymweld â gwledydd Prydain ar ymweliad swyddogol oherwydd ei bolisïau “creulon a chywilyddus”.

Fe fydd aelodau seneddol yn trafod yr ymweliad ddydd Llun, tra bydd protestwyr yn ymgynnull y tu allan i San Steffan.

Dywedodd Sadiq Khan fod ei waharddiad teithio ar drigolion saith o wledydd Mwslimaidd yn ddigon o reswm dros beidio â “rholio’r carped coch allan” ar ei gyfer.

Dywedodd Sadiq Khan wrth raglen ‘Peston on Sunday’ ar ITV: “Dw i’n caru America, dw i’n caru Americaniaid a dw i’n credu fod y berthynas arbennig yn un dda ac yn un sydd yma i aros.

“Ond pan ydych chi’n gyfaill i rywun, pan fo gyda chi berthynas arbennig, wrth gwrs rydych chi ochr yn ochr â nhw ar adegau anodd ond pan ydyn nhw’n anghywir, ry’ch chi’n dangos hynny iddyn nhw.

“Dw i’n credu bod y gwaharddiad hwn ar bobol o saith o wledydd sy’n bennaf Fwslimaidd, a rhoi terfyn ar y rhaglen ffoaduriaid yn greulon ac mae’n gywilyddus.

“Yn yr amgylchiadau hynny, ddylen ni ddim bod yn rholio’r carped coch allan.”

Beirniadu Theresa May

Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May hefyd wedi cael ei beirniadu am estyn y gwahoddiad i Donald Trump mor fuan ar ôl iddo ddechrau yn y swydd – saith diwrnod yn unig ar ôl ei urddo.

Ni chafodd Barack Obama wahoddiad tan ddiwrnod rhif 758 yn y swydd, 220 o ddiwrnodau’n gynt na’i ragflaenydd George W Bush.

Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Syr Nicholas Soames wedi amddiffyn y gwahoddiad, ond mae’n cyfaddef y byddai’r ymweliad yn “ddadleuol iawn”.

Fe fydd Syr Nicholas Soames ymhlith yr aelodau seneddol a fydd yn trafod deiseb sydd wedi denu dros 1.85 miliwn o lofnodion yn galw am dynnu’r gwahoddiad yn ôl – ar y sail y byddai’n achosi “embaras” i Frenhines Elizabeth.

Mae deiseb yn cefnogi’r ymweliad wedi denu 311,000 o lofnodion, a bydd honno hefyd yn rhan o’r drafodaeth.