Nicola Sturgeon (Llun: Trwydded Llywodraeth Agored)
Mae ymgyrchwyr blaenllaw o blaid annibyniaeth i’r Alban wedi darogan y gallai ail refferendwm gael ei gyhoeddi o fewn yr wythnosau nesaf.

Y gobaith yw y gallai’r refferendwm gael ei gynnal fis Mai neu Fedi y flwyddyn nesaf.

Mae ‘Business for Scotland’ yn canolbwyntio’u hymgyrch ar y rhesymau economaidd o blaid annibyniaeth.

E-bost

Yn ôl papur newydd y Sunday Herald, mae sylfaenydd y grŵp wedi e-bostio aelodau gan ddweud bod cyhoeddiad am ail refferendwm “wythnosau i ffwrdd”.

Mae’r bwcis William Hill yn darogan y bydd yr Alban yn wlad annibynnol erbyn 2024, ac mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi dweud bod ail refferendwm yn “debygol iawn” ar ôl y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn erbyn gwirfodd y rhan fwyaf o Albanwyr.

Mae’r ymgyrchwyr wedi codi £15,000 eisoes, sef traean o’u targed.