(Llun: PA)
Mae ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi’n dangos bod Llywodraeth yr Alban wedi gwario £136,414 yn y Goruchaf Lys er mwyn ceisio atal Llywodraeth Prydain rhag tanio Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd y ffigurau eu cyhoeddi fel rhan o ymateb i gwestiwn yn Senedd yr Alban, ac maen nhw’n dangos bod £128,877 wedi cael ei wario ar ffioedd cyfreithiol, ynghyd ag £800 ar ffi’r llys er mwyn ymyrryd yn yr achos.

Roedd Llywodraeth yr Alban yn mynnu bod ganddyn nhw hawl i bleidleisio ar y mater cyn i’r broses ffurfiol ddechrau.

Ond fe gafodd y ddadl ei hwfftio gan y Goruchaf Lys, a benderfynodd hefyd fod rhaid rhoi pleidlais i’r Senedd gyfan ar danio Erthygl 50.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon fod dyfarniad y llys yn “codi cwestiynau sylfaenol” i’w gwlad.

Ar ôl cynnal pleidlais, pleidleisiodd 90 o aelodau seneddol yr Alban yn erbyn tanio Erthygl 50, tra bod 34 wedi pleidleisio o blaid.

Costau

Ymhlith y costau eraill roedd £510 ar gyfer llogi ystafelloedd ac arlwyo yn y Goruchaf Lys, tra bod £6,230 wedi cael ei wario ar gostau teithio a llety swyddogion Llywodraeth yr Alban.

Dywedodd Gweinidog Brexit yr Alban, Michael Russell: “O ystyried pwysigrwydd yr achos ar gyfer trefniadau cyfansoddiadol y DU, a’r effaith ar allu datganoledig hysbysu’n unol ag Erthygl 50, gwnaeth yr Arglwydd Adfocad gais i ymyrryd yn yr achosion, ac fe dderbyniodd y Goruchaf Lys ei gais.”