Nid yw’r arfer newydd o asesu milwyr wedi iddyn nhw ddychwelyd o ryfel yn lleihau’r tebygrwydd o ddatblygu salwch meddwl, yn ôl canfyddiadau astudiaeth gan academwyr.

Mae milwyr sy’n dychwelyd o ryfel yn medru mynd i yfed yn drwm, dioddef iselder a thrawma PTSD.

Yn ôl ymchwil gan goleg King’s yn Llundain doedd asesiad personol ar ôl dod nôl o’r gad, ddim yn fwy effeithlon na chyngor iechyd meddwl cyffredinol gan y Fyddin Brydeinig.

Yn ystod yr ymchwil cafodd milwyr â risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl eu hastudio, gyda rhai yn derbyn asesiad personol cyfrifiadurol a rhai yn derbyn cyngor cyffredinol.

Daeth i’r amlwg nad oedd gwahaniaethau amlwg rhwng y ddau grŵp, gyda chanran tebyg yn y ddau grŵp yn datblygu problemau alcohol, iselder ac anhwylder straen wedi trawma.

Rhwng 10 a 24 mis wedi’r ymchwil bu i 12% o’r grŵp wnaeth dderbyn asesiad personol ddefnyddio gwasanaeth iechyd meddwl pellach, o gymharu â 13% yn y grŵp arall.

“Ni wnaethom ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth sy’n cefnogi’r ddadl bod asesiadau cyfrifiadurol ynghyd â chyngor iechyd meddwl personol, yn well i iechyd meddwl milwyr na chyngor cyffredinol,” meddai’r Athro Robert Rona.