Katie Rough (Llun Heddlu Gogledd Yorkshire)
Mae disgwyl i ferch yn ei harddegau ymddangos gerbron y llys heddiw wedi’i chyhuddo o lofruddio merch saith oed.

Cafwyd hyd i Katie Rough ag anafiadau difrifol i’w gwddf a’i brest ar gae chwarae yn ninas Caerefrog – York – ym mis Ionawr a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Fe gafodd merch 15 oed ei harestio a’i chyhuddo o lofruddio ac o fod â chyllell yn ei meddiant a bydd yn mynd gerbron Llys y Goron Leeds am yr ail dro.

Angladd

Ddydd Llun, cafodd angladd y ferch ifanc ei gynnal, gyda thua 400 o bobol yn gwisgo pethau amryliw i ddathlu ei bywyd.

Yn yr angladd, dywedodd ei hewythr, Steven Rough, “Dylen ni ganolbwyntio ar ba mor hapus yr oedd hi’n ein gwneud ni pan oedd hi yn ein bywydau.”

“Merch ei thad” oedd Katie, meddai, ac un oedd wrth ei bodd yn bod y tu allan ac yn darllen, yn enwedig barddoniaeth a Dr Seuss.