Llun Golwg 360
Fe fydd y papur £5 dadleuol newydd yn parhau i gael ei argraffu ac fe fydd papurau £10 polymer yn cael eu cynhyrchu er gwaetha’r protestiadau am fod y papurau’n cynnwys braster anifeiliaid.

Mae Banc Lloegr wedi penderfynu bwrw ymlaen hefyd â chynllun i argraffu papurau £10 polymer gan ddadlau y byddai dinistrio ac ailargraffu’r arian yn gostus ac yn ei gwneud yn haws i’w ffugio.

Bu  gwrthwynebiad cryf gan lysieuwyr, feganiaid a Hindwiaid wedi i’r banc gadarnhau fod y papurau polymer yn cynnwys braster anifeiliaid – mae 134,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar y banc i ddod â’r defnydd o fraster i ben.

O ganlyniad, mae Banc Lloegr bellach yn ystyried defnyddio olew llysiau yn hytrach na braster er mwyn creu papurau £20 ar gyfer 2020.

Cost ail brintio

Mae £24 miliwn wedi cael ei wario ar gynhyrchu 275 miliwn o bapurau £10 newydd ac mi fyddai ailgynhyrchu’r nodau â deunydd gwahanol yn golygu byddai’n rhaid gwario’r un swm unwaith eto.

“Mae’r banc yn gweithio’n galed i sicrhau fod gan y cyhoedd arian papur diogel i’w ddefnyddio o ddydd i ddydd ac mi fyddai dinistrio’r arian papur yma yn peryglu’r diogelwch yna,” meddai’r banc mewn datganiad.