Rolf Harris - ail achos a chyhuddiad newydd (Llun: PA)
Fe fydd rhaid i’r diddanwr o dras Cymreig, Rolf Harris, wynebu ail achos llys am dri chyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Fe fydd y diddanwr a’r arlunydd, sy’n 86 oed, hefyd yn wynebu un honiad newydd o ymosodiad anweddus.

Roedd rheithgor wedi methu â dod i ddyfarniad mewn achos ynghylch y tri chyhuddiad gwreiddiol – mae’r cyhuddiad newydd hefyd yn ymwneud ag un o’r tair merch yn yr achosion hynny.

Mae’r holl gyhuddiadau’n ymwneud â honiadau ynglŷn â digwyddiadau yn yr 1970au a’r 80au.

‘Canllawiau’

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod wedi penderfynu cynnal ail achos ar ôl ystyried y canllawiau cyfreithiol sydd ganddyn nhw i ddelio gydag achos lle bydd rheithgor yn methu â phenderfynu.

Roedd yr un rheithgor wedi ei gael yn ddieuog o dri chyhuddiad arall o droseddau rhyw ac mae yntau wedi gwadu’r tri chyhuddiad arall.

Yn y gwrandawiad heddiw, fe ymddangosodd Rolf Harris trwy gyswllt fideo o’r carchar.

Bydd ei ail achos yn cael ei gynnal ar Fai 15.