Llun: PA
Mae cynlluniau yn cael eu hystyried ar hyn o bryd i newid system iawndal y Weinyddiaeth Amddiffyn fyddai’n rhwystro milwyr a’u teuluoedd rhag eu herio am faterion esgeulustod.

Yn hytrach, byddai materion o’r fath yn cael eu delio gan aseswr mewnol y Weinyddiaeth, ac maen nhw’n mynnu mai cynnig gwell iawndal i filwyr a’u teuluoedd yw’r nod.

Ond mae tad milwr a fu farw mewn ffrwydrad ar ochr y ffordd yn Irac yn 2007 wedi beirniadu’r cynlluniau a’u galw’n “annheg.”

‘Methiannau’

Bu farw mab Colin Redpath, sef Kirk Redpath, 22 oed, wrth deithio mewn cerbyd yn Irac pan fu ffrwydrad ar ochr y ffordd.

“Yn y pendraw, maen nhw (y Weinyddiaeth Amddiffyn) yn gyflogwr,” meddai gan gyfeirio at eu dyletswydd i ddarparu’r offer a’r cyfarpar diogelwch gorau posib i’w milwyr.

Fe wnaeth ymchwiliad Chilcot y llynedd ganfod nifer o fethiannau ym mharatoadau’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer Rhyfel Irac oedd yn cynnwys diffyg darpariaeth ddigonol o gerbydau addas i wrthsefyll ffrwydradau.

‘Gwell iawndal’

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn fod y newidiadau arfaethedig yn “ymwneud â gwell iawndal.”

“Beth bynnag yw’r camau cyfreithiol, rydyn ni’n barod yn blaenoriaethu dysgu gwersi o unrhyw ddigwyddiadau yn ymwneud â diogelwch ein personél,” ychwanegodd y llefarydd.