Roedd graddfa chwyddiant wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers dwy flynedd a hanner ym mis Ionawr wrth i brisiau tanwydd gynyddu costau byw.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur chwyddiant, wedi cyrraedd 1.8% fis diwethaf, o 1.6% ym mis Rhagfyr, gan gyrraedd ei lefel uchaf ers mis Mehefin 2014.

Serch hynny roedd yn is na tharged Banc Lloegr o 2% ac roedd economegwyr wedi darogan y byddai’n cyrraedd 1.9%.

Roedd prisiau petrol wedi codi 118.6c y litr ym mis Ionawr, o 114.6c y litr ym mis Rhagfyr tra bod disel wedi cyrraedd 121.9c y litr fis diwethaf, o 118p y litr ym mis Rhagfyr.

Roedd ffigurau ar wahân ar gyfer Mynegai Prisiau Cynhyrchwyr (PPI) yn dangos bod y prisiau sy’n cael eu talu am ddefnyddiau a thanwydd gan gynhyrchwyr yn y Deyrnas Unedig wedi dangos y twf mwyaf ers mis Medi 2008, gan gynyddu 20.5% ym mis Ionawr.

Mae disgwyl i’r cynnydd mewn prisiau mewnforion, oherwydd y gostyngiad yng ngwerth y bunt yn sgil Brexit, arwain at gynnydd mewn prisiau nwyddau bob dydd wrth i gwmnïau drosglwyddo’r cynnydd sylweddol mewn costau at gwsmeriaid.