Paul Nuttall (Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae arweinydd UKIP, Paul Nuttall yn dweud ei fod e “wedi gwylltio” ar ôl i bapur newydd The Guardian awgrymu ei fod e wedi dweud celwydd am fod yn un o’r rhai oedd wedi goroesi trychineb Hillsborough.

Cafodd 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl eu lladd yn ystod gêm yn erbyn Nottingham Forest yng Nghwpan yr FA ar Ebrill 15, 1989.

Dywedodd Paul Nuttall ei fod e “wedi cael loes, yn grac ac wedi ffieiddio” gan erthygl yn y papur newydd oedd yn ceisio profi nad oedd e yn y stadiwm ar y diwrnod hwnnw.

Dywedodd e wrth ohebwyr ddydd Llun ei fod e wedi rhoi dau ddatganiad ysgrifenedig i’r papur newydd, gan eu cyhuddo o “droi’r stori”.

Roedd yr erthygl yn sôn am ddau berson – un yn ffrind a’r llall yn gyn-athro – oedd wedi dweud nad oedden nhw’n cofio Paul Nuttall yn sôn ei fod e wedi bod yn Hillsborough ar y diwrnod.

Yn ôl Paul Nuttall, aeth e i’r gêm gyda’i dad a dau ewythr pan oedd e’n 12 oed.

Mae Maer Lerpwl, Joe Anderson, yn ôl yr erthygl, hefyd wedi mynegi ei siom nad yw Paul Nuttall erioed wedi ceisio defnyddio’i ddylanwad gwleidyddol i “sefyll i fyny dros bobol ei gymuned ei hun ac ymuno yn y frwydr am gyfiawnder”.

Mae Paul Nuttall yn ymgeisydd yn isetholiad Stoke ar hyn o bryd, lle bydd etholwyr yn bwrw eu pleidlais ar Chwefror 23.

‘Wedi gwylltio mwy nag erioed o’r blaen’

 

Wrth ymateb i’r honiadau, dywedodd Paul Nuttall ei fod e “wedi gwylltio mwy nag erioed o’r blaen”.

“Dw i’n gwybod fod [gwleidyddiaeth] yn gêm frwnt ond mae hyn y tu hwnt i grafu gwaelod y gasgen, a bod yn gwbl onest.

“Mae wedi fy ypsetio i’n bersonol, ac mae wedi ypsetio fy nheulu.”

Dywedodd fod yr honiadau, fel cefnogwr Lerpwl ers blynyddoedd lawer, “yn waeth nag unrhyw beth arall”.