Llys Ynadon Westminster
Mae dyn o ardal Manceinion wedi’i gyhuddo o dan y Ddeddf Sylweddau Ffrwydrol wedi i becyn amheus gael ei ddarganfod mewn maes awyr ddiwedd mis Ionawr.

Cafodd cartref Nadeem Muhammed, 43 oed, ar Stryd Tinline yn Bury ei archwilio dan warant ddydd Iau, ac fe gafodd gwarant i’w arestio ei wneud ddoe, (dydd Sul Chwefror 12).

Mae disgwyl i’r dyn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster dydd Llun.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Manceinion: “Ar ddydd Llun, 30 Ionawr 2017, yn dilyn sgrinio diogelwch effeithiol, cafodd dyn ei atal ym maes awyr Manceinion wedi i becyn amheus gael ei adnabod wrth fynd trwy’r systemau diogelwch.

“Cafodd y dyn ei holi gan swyddogion yr heddlu a’i ryddhau’n ddiweddarach ar gyfer ymholiadau pellach.”