Banc y Co-op (Llun: Wikipedia)
Mae bwrdd Banc y Co-Op wedi cyhoeddi eu bod yn gwerthu’r banc.

Dywedodd y banc, sydd a 4 miliwn o gwsmeriaid, eu bod yn cael trafferthion cwrdd â gofynion cyfalaf rheoliadol y Deyrnas Unedig.

Wythnos ddiwethaf, roedd Grŵp y Co-op, sy’n berchen ar 20% o’r banc, wedi dechrau cyfnod o ail-strwythuro a fydd yn golygu bod prif weithredwr y grŵp, Richard Pennycook, yn camu o’i swydd.

Mae’r banc yn ystyried ffyrdd eraill o godi cyfalaf, gan gynnwys codi arian gan fuddsoddwyr presennol a rhai newydd.

Bu bron i Fanc y Co-op fynd i’r wal yn 2013 ac mae’r banc wedi cadarnhau y bydd yn cyhoeddi colledion “sylweddol” am y flwyddyn hyd at 31 Rhagfyr.