John Bercow (Llun: PA)
Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow yn mynnu ei fod e’n ddi-duedd, yn dilyn ffrae am ei bleidlais yn y refferendwm Ewropeaidd y llynedd.

Yn ôl y Sunday Telegraph, mae John Bercow wedi dweud wrth fyfyrwyr yn Reading ei fod e wedi pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd adeg y refferendwm y llynedd.

Yn ôl ei lefarydd yntau, dydy ei allu i wneud ei waith ddim wedi cael ei effeithio gan ei ddaliadau gwleidyddol ei hun.

Fe fu dan gryn bwysau ers cyhoeddi na fyddai’n rhoi’r hawl i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump annerch y Senedd yn ystod ei daith.

Dywed y papur newydd eu bod nhw wedi gweld fideo o John Bercow yn dweud: “Yn bersonol, fe wnes i bleidleisio o blaid aros. Ro’n i’n meddwl ei bod yn well aros yn yr Undeb Ewropeaidd na pheidio.”

Fe gyfeiriodd hefyd at “anwireddau” yr ymgyrchwyr o blaid gadael, a bod “addewidion wedi cael eu gwneud nad oedd modd eu cadw”.

Cyfrifoldeb

Yn ôl gwefan y Senedd, mae gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin gyfrifoldeb i sicrhau ei fod yn “wleidyddol ddi-duedd bob amser” ac “aros ar wahân i faterion gwleidyddol hyd yn oed pan fydd wedi ymddeol”.

Ond mae ei lefarydd yn mynnu nad yw John Bercow wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

“Fe bleidleisiodd, ynghyd â miliynau o bobol eraill, yn refferendwm Ewrop.

“Mae’r cofnod yn dangos iddo hwyluso’n gadarn y broses o godi pryderon ar ddwy ochr y ddadl, fel y mae’n ei wneud ym mhob achos arall.”

Dywedodd ei fod e’n ofalus wrth sicrhau bod “dwy ochr y ddadl yn cael eu clywed bob amser”, a’i fod e’n “parchu” canlyniad y refferendwm.

Donald Trump

Yn y cyfamser, mae adroddiadau’n awgrymu y gallai Donald Trump annerch rali yn ystod ei ymweliad â gwledydd Prydain, ar ôl cael ei wahardd rhag annerch y senedd.

Mae lle i gredu y gallai’r digwyddiad gael ei gynnal yn Birmingham.