Donald Trump (Michael Vadon CCA4.0)
Mae miloedd o bobl wedi bod yn protestio ar strydoedd Caeredin yn erbyn gwleidyddiaeth a pholisïau arlywydd America, Donald Trump.

Cafodd yr orymdaith liwgar ei threfnu gan fudiad o’r enw Scotland Against Trump.

Cafodd y protestwyr eu rhwystro gan yr heddlu rhag gorymdeithio heibio i lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn y ddinas, ond aeth yr orymdaith ymlaen at Senedd yr Alban lle cynhaliwyd rali.

Mewn datganiad dywedodd Scotland Against Trump ei bod yn bryd taro’n ôl yn erbyn polisïau Donald Trump.

“Mae Trump ar frig ymchwydd rhyngwladol o fudiadau asgell dde,” meddai’r datganiad. “Fe fyddwn ni’n gwrthsefyll. Ni yw’r mwyafrif. Rydym yn barod i godi’n llais.”