Mae disgwyl y bydd prisiau pysgod yn codi dros yr wythnosau nesaf oherwydd streic gan bysgotwyr yng Ngwlad yr Ia.

Wrth i’r pysgotwyr fynnu cyfran uwch o werth y pysgod y maen nhw’n eu dal, mae llawer llai o benfras a hadog yn cael eu cyflenwi i Brydain.

Mae marchnad bysgod Grimsby, sy’n mewnforio mwy nag unlle arall ym Mhrydain o bysgod o Wlad yr Ia, eisoes wedi gorfod diswyddo gweithwyr.

Mae dau draean o’r pysgod sy’n cael eu gwerthu yno yn dod o Wlad yr Ia, ac mae’r stoc tua 50% i lawr ar hyn o bryd.

“Yr hiraf y bydd y streic yn parhau, y gwaethaf y bydd pethau’n mynd,” meddai Martyn Boyers, prif weithredwr y cwmni sy’n rhedeg marchnad bysgod Grimsby.

“Gwlad yr Ia yw un o’r prif gyflenwyr pysgod i Brydain, ac mae wedi taro’n busnes ni’n arbennig o ddrwg gan ein bod ni’n dibynnu ar bysgod Gwlad yr Ia.

“Gyda llai o bysgod ar gael a’r galw’n aros yr un fath, yna fe fydd y pris yn codi.”