Nicola Sturgeon (llun llywodraeth agored)
Mae Nicola Sturgeon yn pwyso ar Theresa May i ailfeddwl ynghylch y ‘penderfyniad cywilyddus’ i gau’r cynllun i dderbyn ffoaduriaid sy’n blant o wledydd eraill yn Ewrop.

Dywed prif weinidog yr Alban fod ‘dyletswydd foesol’ i helpu plant mewn angen ac mae’n pwyso am gadw’r drws yn agored iddyn nhw.

Mae’r Alban wedi cartrefu 35 o blant drwy’r cynllun.

Mewn llythyr at Theresa May, dywed Nicola Sturgeon:

“Dw i’n ei chael hi’n anodd deall pam y byddai llywodraeth Prydain yn mynd cyn belled â hyd yn oed ystyried cau’r drws ar blant sydd mor agored i niwed.

“Mae dioddefaint plant yn gofyn am ymateb penderfynol a dyngarol o bob rhan o Brydain a gwledydd eraill.

“Mae gan bawb ohonom ddyletswydd foesol i wneud yr hyn a allwn ni i helpu’r rheini mewn mwyaf o angen.”