Mae disgwyl y bydd eira dros rannau o wledydd Prydain cyn y penwythnos yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Bydd Lloegr yn oerach heddiw na gweddill Prydain gyda thymheredd rhwng 2-3 gradd Celsius, tra bod Cymru ychydig yn gynhesach â’r tymheredd ar ei uchaf yn 5 gradd Celsius.
Dros nos mae disgwyl iddi oeri ymhellach gyda thymheredd o finws 10 gradd Celsius mewn ardaloedd mynyddig yn yr Alban.
Y tymheredd oeraf i’w gofnodi ym Mhrydain dros y Gaeaf hyd yma yw minws 11 gradd Celsius yn Cromdale yng ngogledd ddwyrain yr Alban.
“Fory, dros Brydain oll rydym yn mynd i weld y tymheredd yn disgyn dan sero gradd Celsius. Fe fydd cawodydd o law, eirlaw ac yn rhai llefydd eira,” meddai dynes tywydd y Swyddfa Dywydd Sophie Yeomans.