Y ddiweddar Tara Palmer Tomkinson (Llun: Wikipedia)
Mae Tara Palmer-Tomkinson wedi’i chael yn farw, a hithau’n ddim ond 45 oed.

Roedd wedi cael clywed y llynedd bod ganddi diwmor ar yr ymennydd.

Meddai llefarydd ar ran Heddlu Llundain: “Fe gafodd yr heddlu eu galw gan Wasanaethau Ambiwlans Llundain tua 1.40yp ddydd Mercher, Chwefror 8, i gyfeiriad yn Bramham Gardens, SW5.

“Roedd dynes, yn ei 40au, wedi ei chael yn farw yno. Ar hyn o bryd, mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb eglurhad. Dydyn ni ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.”

Mae’r crwner wedi’i hysbysu, ac mae’r teulu hefyd wedi cael gwybod.