Mark Frost (Llun: PA)
Mae’n debygol y bydd pedoffeil yn marw yng ngharchar, wedi iddo gael ei ddedfrydu i 13 dedfryd o garchar am oes am droseddau “hunllefus” yn erbyn plant yng ngwledydd Prydain a thramor.

Yn llys yr Old Bailey, fe blediodd y cyn-athro Saesneg, Mark Frost, 70, yn euog i 45 o gyhuddiadau yn erbyn naw o blant yng Ngwlad Thai rhwng 2009 a 2012. Fe gyfaddefodd hefyd i gael cyfathrach rywiol gyda dau ddisgybl yn Sir Gaerwrangon yn ystod y 1990au.

Ar rai adegau, fe ddigwyddodd y cam-drin ar dir yr ysgol lle’r oedd yn gweithio; droeon eraill, fe fyddai ei fab mabwysiedig yn bresennol.

Fe gafodd Mark Frost ei ddedfrydu gan y Barnwr Mark Lucraft, a’i orchymyn i dreulio 16 mlynedd o bob dedfryd oes dan glo.

“Rydych chi wedi bod yn gyfrifol am gyfres warthus o gam-drin rhywiol,” meddai’r barnwr, “ac mae’n glir bod gennych obsesiwn gyda bechgyn ifanc. Mae eich ymddygiad tuag at bob un o’r dioddefwyr hyn, yn hunllefus ac yn anesmwytho dyn.”