Mae un o adeiladau eiconig Lerpwl – y Liver Building – wedi’i werthu am £48m.

Mae’r adeilad rhestredig Gradd I wedi’i brynu gan Corestate Capital Holding, cwmni o Lwcsembwrg sy’n prynu a gwerthu eiddo.

Fe gafodd y Liver Building ei roi ar y farchnad ym mis Hydref y llynedd, am £40m. Mae’n un o’r tri adeilad enwoca’ ar lan y dwr yn Lerpwl, ynghyd ag adeilad Cunard ac adeilad Porthladd Lerpwl.

Mae’n gartre’ i swyddfeydd cwmnïau fel ITV a’r band HSBC, ac mae ynddo ofod 330,000 troedfedd sgwar ar gyfer cynnal digwyddiadau.