Mae mam-gu a thad-cu merch ysgol o Orllewin Swydd Efrog wedi beirniadu’r BBC am ddrama sy’n adrodd hanes ei diflaniad honedig.

Cafwyd hyd i Shannon Matthews, oedd yn naw oed ar y pryd, yng nghartref ewythr ei llystad 24 diwrnod ar ôl iddi ddiflannu. Roedd hi wedi cael ei chuddio ac roedd cyffuriau wedi cael eu rhoi iddi.

Cafodd ei mam, Karen Matthews ei charcharu am ei rhan hithau yn y cynllwyn, ar ôl iddi drefnu diflaniad ei merch er mwyn hawlio gwobr ariannol.

Bydd Sheridan Smith yn chwarae rhan y fam yn y cynhyrchiad a fydd yn cael ei ddangos ar BBC1 nos Fawrth.

‘Adloniant’

Ond yn ôl June Matthews, mam-gu Shannon, ni ddylai ei diflaniad fod yn destun adloniant.

Dywedodd wrth bapur newydd y Daily Mail bod y rhaglen yn “ffiaidd”.

“Mae Shannon yn haeddu byw ei bywyd mewn modd heddychlon. Mae hi’n haeddu cael llonydd.

“Roedd yr hyn a ddigwyddodd iddi’n drawma, yn drasiedi.

“Mae’n ffiaidd ei fod yn cael ei droi’n sioe deledu. Dyw e ddim yn adloniant.

“Bywyd go iawn yw e ac mae’n llai na deng mlynedd ers iddo ddigwydd.

“Os yw hi’n ei gweld, mae Shannon yn ddigon hen i ddeall ei bod hi amdani hi.

“Bydd hi’n gwybod ei bod yn trafod y pethau ofnadwy a ddigwyddodd iddi.

“Sut mae hynny’n deg? Bydd yn ei hypsetio hi.”

‘Synnu’

Mae June Matthews hefyd yn synnu bod Sheridan Smith wedi cytuno i ymddangos yn y cynhyrchiad.

Ychwanegodd tad-cu Shannon, Gordon Matthews: “Fydda i ddim yn troi’r rhaglen honno ymlaen yn fy nghartref i.”

Dywedodd y ddau eu bod nhw wedi derbyn llythyr gan y BBC yn rhoi gwybod i Karen Matthews y byddai hi’n cael ei phortreadu yn y cynhyrchiad.

Cafodd hi ei rhyddhau o’r carchar yn 2012.

Ond dywedodd ei rhieni: “Dydyn ni ddim wedi siarad â Karen na’i gweld ers iddi gael ei harestio.”