Mae'r dechnoleg wedi'i chreu gan ddefnyddio system debyg i'r hyn wnaeth greu llais yr Athro Stephen Hawking (Llun: PA)
Mae technoleg wedi cael ei datblygu a fydd yn helpu dyn 41 oed o Swydd Efrog i gadw ei acen ar ôl iddo golli ei lais o ganlyniad i glefyd niwronau motor.

Mae’r dechnoleg wedi cael ei datblygu gan dynnu ar y system a gafodd ei chreu ar gyfer yr Athro Stephen Hawking.

Cafodd Jason Liversidge wybod yn 2014 ei fod yn dioddef o’r cyflwr, ac mae e wedi bod yn colli ei lais yn raddol.

Ond yn hytrach na derbyn llais cyfrifiadur, fe fydd e’n gallu cadw ei acen ei hun ar ôl i’w lais gael ei recordio yn ystod priodas ei chwaer, ac mae dynion eraill o Swydd Efrog wedi cyfrannu hefyd.

Y gobaith yw y bydd e’n gallu parhau i gyfathrebu â’i wraig Liz a’i blant, Poppy a Lilly drwy gyfrwng y dechnoleg.

Dywedodd wrth raglen Inside Out Yorkshire and Lincolnshire y BBC, dywedodd Jason Liversidge: “Byddwn i’n hoffi cadw rhyw fath o hunaniaeth.

“Dw i jyst ddim eisiau bod yn lais sydd wedi cael ei raglennu ar gyfrifiadur. Ond hefyd i’r plant a Liz, dw i eisiau iddyn nhw glywed fy llais i yn hytrach nag un ar gyfrifiadur.”

‘Eitha da’

Ar ôl clywed y dechnoleg, dywedodd fod ei lais yn “eitha da”.

“Mae’n hawdd i’w adnabod ac mae’n swnio’n dda iawn. Dw i’n gwybod mai fi yw e.”

Cafodd y dechnoleg ei datblygu mewn canolfan yng Nghaeredin sy’n cael ei hariannu gan yr awdures JK Rowling.

Dywedodd Dr Phillipa Rewaj o Glinig Anne Rowling: “Mae eich llais yr un mor hawdd i bobol eraill ei adnabod ag yw eich wyneb.

“Mae’n unigryw iawn i chi. Felly mae gallu cadw hynny’n bwysig iawn i bobol.”