Mae dyn o wledydd Prydain sy’n byw yn Sbaen wedi cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio’r troseddwr enwog John ‘Goldfinger’ Palmer.

Cafodd y dyn 50 oed, sy’n wreiddiol o Tyneside, ei holi gan Heddlu Swydd Essex.

Mae lle i gredu bod John ‘Goldfinger’ Palmer yn werth £300 miliwn, ac fe gafwyd hyd i’w gorff ar Fehefin 24, 2015.

Roedd lle i gredu’n wreiddiol ei fod e wedi marw o achosion naturiol, ond fe ddaeth yn amlwg ei fod e wedi cael ei lofruddio.

Doedd plismyn ddim wedi archwilio’i gorff yn ddigon manwl, meddai’r heddlu, a doedden nhw ddim wedi sylwi ei fod e wedi cael ei saethu.

Doedden nhw ddim ychwaith yn gwybod ei fod yn droseddwr enwog.

Cafodd ei garcharu am wyth mlynedd yn 2001 am dwyll gwerth £33 miliwn.