Fe fydd staff British Airways yn dechrau streicio ddydd Sul wrth i ffrae tros gyflogau barhau.

Fe fydd aelodau undeb Unite yn cerdded allan o’r gwaith am dridiau, ac fe fyddan nhw’n parhau â’u streic am dridiau ychwanegol o ddydd Iau.

Maen nhw’n honni eu bod nhw’n derbyn “cyflog tlodi”, gyda rhai ohonyn nhw’n dweud bod rhaid iddyn nhw gael dwy swydd er mwyn cael deupen llinyn ynghyd.

Bydd y gweithwyr yn ymgasglu ger maes awyr Heathrow.

Does dim disgwyl llawer o oedi i deithwyr, ond fe fydd rhai teithiau allan o’r maes awyr yn cael eu cyfuno.

Ymateb

Wrth ymateb i bryderon y gweithwyr, dywedodd cwmni British Airways fod eu staff yn derbyn cyflog sydd wedi’i dderbyn gan 90% o’u cydweithwyr, gan gynnwys aelodau’r undeb.

Maen nhw hefyd yn dweud bod y cyflog ar yr un raddfa â chwmnïau eraill yng ngwledydd Prydain.

Ond mae undeb Unite yn dweud bod y gweithwyr yn “dangos cryn ddewrder” wrth “wneud safiad yn erbyn cyflog tlodi”.

Maen nhw’n dweud y dylai’r cwmni “werthfawrogi staff sy’n cyfrannu cymaint” at elw’r cwmni.

Yn ôl yr undeb, mae staff yn derbyn cyflog sylfaenol o £12,192, gyda thâl o £3 yr awr am hedfan.

Mae staff a gafodd eu cyflogi yn 2010 yn derbyn cyflog sylfaenol o £16,000 ac yn derbyn lwfans ychwanegol.

Mae British Airways yn gwadu’r ffigurau, gan ddweud bod pob aelod o staff yn derbyn o leiaf £21,000 fel cyflog sylfaenol.