Theresa May (Llun: Hannah McKay / PA)
Bydd Theresa May yn addo y bydd gwledydd Prydain yn dal i helpu i daclo argyfwng ffoaduriaid Ewrop ar ôl Brexit, wrth iddi geisio cynghreirio ag arweinwyr cyn y trafodaethau ysgaru gyda Brwsel.

Bydd y Prif Weinidog yn addo y bydd y Deyrnas Unedig yn parhau’n “bartner dibynadwy” a bydd yn dweud wrth arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ei bod am gael perthynas “newydd, positif ac adeiladol” gyda nhw wedi Brexit.

Ond mae disgwyl iddi ddweud wrthyn nhw hefyd bod rhaid iddyn nhw gynyddu eu gwariant ar amddiffyn yn dilyn trafodaethau â Donald Trump ar ei agwedd tuag at NATO.

Mae Theresa May yn Valletta, prifddinas Ynys Melita, heddiw, lle mae disgwyl iddi gynnal trafodaethau un wrth un â chyfres o arweinwyr Ewrop.

Cnoi cil dros Brexit

Dyma fydd ei chyfle cyntaf i drafod Brexit gyda nhw’n uniongyrchol ers iddi amlinellu ei chynlluniau a chynnig mesur i Aelodau Seneddol ar danio’r broses o adael – Erthygl 50.

Bydd yn dweud ei bod am weld yr Undeb Ewropeaidd yn parhau’n gryf, gan ddweud ei fod o fudd i’r Deyrnas Unedig a’r gymuned ryngwladol ei fod yn llwyddiannus.

Prif ffocws y trafodaethau yn Valletta fydd mesurau i daclo’r argyfwng mudwyr sydd wedi lledu ledled Ewrop.

Mae mesurau Theresa May ar yr argyfwng yn cynnwys atal mudwyr rhag dod i Ewrop yn y lle cyntaf drwy gefnogi mannau i ffoaduriaid yn agosach i’w cartrefi a dychwelyd y sawl sy’n cyrraedd Ewrop heb hawl i aros yno.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog aros yn Malta am ran gyntaf y cyfarfod yn unig, gydag arweinwyr y 27 o wledydd eraill yn parhau i drafod yn y prynhawn hebddi, i drafod Brexit a dyfodol yr Undeb.