Mae gweithiwr archfarchnad, oedd â chopïau o lawlyfr gwneud bomiau yn ei feddiant, ynghyd ag offer yn barod ar gyfer teithio i ymladd gydag un o is-grwpiau ISIS yn y Ffilipinas, wedi’i gael yn euog o droseddau brawychol.

Fe glywodd Llys y Goron Woolwich yn Llundain fod Ryan Counsell o Nottingham wedi “cynllunio’n helaeth” ar gyfer ei ymweliad â’r Ffilipinas, a’i fod wedi prynu offer milwrol er mwyn “cymryd rhan mewn brwydr neu gefnogi grwp eithafol”.

Fe gafwyd y dyn 28 oed hefyd yn euog o fod â dogfennau yn cynnwys gwybodaeth frawychol yn ei feddiant, ac o fod yn paratoi at weithredu.