Y diweddar Ken Morrison
Mae sylfaenydd archfarchnad Morrisons, Syr Ken Morrison, wedi marw.

Bu farw yn ei gartref yn Swydd Efrog yn 85 oed, yn dilyn salwch byr.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu ei fod yn “ffigwr unigryw” yn y diwydiant a bod ei ymrwymiad i Morrison’s yn ymestyn dros hanner canrif.

Fe dyfodd y cwmni o fod yn gyfres o stondinau marchnad yn Bradford i fod yn un o brif archfarchnadoedd gwledydd Prydain.

Daeth yn gadeirydd ac yn rheolwr gyfarwyddwr y cwmni yn 1956, gan roi’r gorau i fod yn rheolwr gyfarwyddwr yn 1997. Rhoddodd y gorau i fod yn gadeirydd y cwmni yn 2008.

Agorodd y cwmni ei siop gyntaf yn 1958, a’r archfarchnad gyntaf yn 1961 – y ddwy ohonyn nhw yn Bradford.