Mae newid i system docynnau trenau yn mynd i gael ei threialu, gyda’r bwriad o wneud prynu tocynnau rhad yn haws.

Ar hyn o bryd, mae talu am gyfres o docynnau er mwyn cyrraedd lleoliad yn medru bod yn rhatach nag talu am un tocyn am y trip cyfan, felly’r bwriad yw cynnig yr opsiwn gynta’ yn awtomatig.

Bydd y newidiadau hefyd yn arwain at beiriannau gwerthu tocynnau symlach a’r opsiwn o brynu tocynnau sengl yn hytrach na thocyn dwy ffordd os mai dyna yw’r opsiwn rhata’.

Bydd y treialon yn dechrau ym mis Mai ar lond llaw o deithiau Seisnig gan gynnwys gwasanaethau CrossCountry, Trenau Virgin a gwasanaethau dwyrain canolbarth Lloegr.

“Annhegwch a chymhlethdod”

Mis Hydref, mi wnaeth Pwyllgor Dethol Trafnidiaeth Tŷ’r Cyffredin gyhoeddi adroddiad yn beirniadu bod “annhegwch a chymhlethdod” y system bresennol wedi bod yn glir ers o leia’ degawd.

Mae’r cwmnïoedd trenau wedi honni bod rheolau llywodraethol wedi eu hatal rhag medru cynnig ticedi gwell i gwsmeriaid.

“Gwaredu’r cymhlethdodau”

“Rydym yn gwybod bod cwsmeriaid yn ei gweld hi’n anodd cael gafael ar y ticed iawn ar gyfer eu siwrnai oherwydd rheolau cymhleth mae’r Llywodraeth wedi adeiladu dros ddegawdau,” meddai Cadeirydd Profiadau Cwsmeriaid Rail Delivery Group, Jacqueline Starr.

“Wrth weithio gyda’r Llywodraeth, rydyn ni’n benderfynol o gael gwared â’r cymhlethdodau er mwyn gwneud hi’n haws i gwsmeriaid brynu ticedi y gallwn ymddiried ynddyn nhw.”