Mae dau o bobol wedi cael eu harestio ar ôl iddyn nhw geisio diarfogi awyrennau rhyfel mewn maes awyr yn Swydd Gaerhirfryn.
Mae lle i gredu bod yr awyrennau yn cael eu paratoi i deithio i Saudia Arabia pan gafodd y Parchedig Dan Woodhouse a’r Crynwr Sam Walton fynediad i BAE Systems yn Warton.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod dau o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddifrod troseddol.
Dywedodd y ddau eu bod nhw’n ceisio amharu ar deithiau i Saudi Arabia dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd y Parchedig Dan Woodhouse: “Mae atal neu achosi oedi cyn i Saudi Arabia gael rhagor o awyrennau i’w defnyddio i fomio’r Yemen yn achub bywydau’r diniwed ac yn atal troseddau rhyfel.”
Ychwanegodd Sam Walton nad oedd gan y ddau “ddewis arall”.