Mae trydydd dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 33 oed yn ei gar yn West Bromwich.

Cafodd y dyn 24 oed ei arestio yng Ngwlad Belg, ac mae’r awdurdodau’n aros i’w gludo i wledydd Prydain i’w holi.

Mae dau ddyn arall eisoes wedi’u cyhuddo o lofruddio Carl Campbell ar Ragfyr 27.

Mae Mohammed Humza, 19, a Vikesh Chauhan, 24, eisoes wedi bod gerbron llys.

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd teulu Carl Campbell ei fod yn “fab oedd wedi’i garu, yn dad ffyddlon ac yn frawd annwyl oedd yno o hyd i’w deulu, yn enwedig ei fab bach prydferth a’i frodyr iau.”