Mae un o archfarchnadoedd mwyaf Prydain wedi cytuno ar ddêl £3.7 biliwn i uno gyda chwmni Booker.

Booker sydd yn berchen ar siopau bwyd Londis a Budgens, a bydd yn cyfuno gyda Tesco gyda’r gobaith o greu “busnes bwyd pennaf y Deyrnas Unedig.”

Wrth drafod manteision uno dywedodd y cwmnïoedd y byddai cwsmeriaid yn elwa o brisiau mwy “deniadol” a byddai siopau annibynnol yn elwa.

Bydd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn adolygu’r ddêl ond mae arweinydd Booker wedi mynnu nad oes angen gofidio gan fod y cytundeb yn un sydd “o blaid cystadleuaeth.”

Mae Prif Weithredwr Tesco Dave Lewis wedi ei ganmol am lwyddiant diweddar y cwmni yn dilyn methiannau ei ragflaenydd Philip Clarke.