Mae’r Royal Bank of Scotland wedi gorfod rhoi £3.1 biliwn ychwanegol o’r neilltu er mwyn talu costau cyfreithiol yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r banc, sydd yn y gorffennol wedi derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, wedi ei gyhuddo o werthu morgeisiau anniogel yn ystod cyfnod cyn yr argyfwng bancio.

Yn ôl yr RBS, nid yw’n glir pryd fydd trafodaethau gydag Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau yn dod i ben, ac mae’n bosib y bydd yn rhaid talu costau pellach yn y dyfodol.

Trethdalwyr sydd yn berchen ar 72% o’r cwmni a oedd mewn dyled o £2.5 biliwn am naw mis cyntaf y flwyddyn ddiwetha’.

“Mae’n glir i mi fod RBS wedi’i datgysylltu o’r ffocws ar gwsmeriaid ddylai fod yn graidd i unrhyw fanc,” meddai Prif Weithredwr RBS, Ross McEwan.