Fe fu farw dyn 65 oed ar ôl aros dwy awr a hanner am ambiwlans ar ôl iddo gwympo.

Fe wnaeth Richard Hansbury o Wigan waedu i farwolaeth ar ôl cwympo yn ei fflat a chael ei ddarganfod ar ôl i gymdogion ei glywed yn galw am gymorth.

Roedd yn gwaedu’n drwm o ganlyniad i daro’i ben, yn ôl adroddiadau.

Cafodd yr alwad 999 ei chofrestru fel galwad “goch” – sy’n gofyn am ymateb o fewn wyth munud – ond roedd Gwasanaeth Ambiwlans y Gogledd Orllewin mor brysur nes bod rhaid aros dros awr i barafeddygon gyrraedd.

Cafodd ei drin yn y fan a’r lle, ond fe fu’n rhaid galw criw ychwanegol i’w godi i mewn i ambiwlans gan ei fod yn pwyso 19 stôn.

Ond doedd dim criw ar gael ar y pryd, oedd yn golygu bod rhaid aros dwy awr 42 munud ar ôl yr alwad wreiddiol cyn ei gludo i’r ysbyty.

Trawiad ar y galon 

Erbyn iddo gyrraedd yr ysbyty, roedd ei bwysedd gwaed wedi gostwng i lefel beryglus o ganlyniad i golli gwaed. Cafodd dri thrawiad ar y galon, ac fe fu farw oriau’n ddiweddarach

Yn ôl adroddiad ymchwiliad i’w farwolaeth, roedd 15 o ambiwlansys yn aros mewn rhesi y tu allan i ysbytai ardal Manceinion.

Mae ei deulu wedi dweud bod ei farwolaeth yn “farbaraidd”, ac y byddai’n dal yn fyw pe bai’r gwasanaeth ambiwlans wedi ymateb yn well.

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad ei fod e wedi marw’n bennaf o ganlyniad i golli gwaed.

Fe fydd y cwest i’w farwolaeth yn agor ddydd Gwener.

Mae gwasanaeth ambiwlans y Gogledd Orllewin wedi cynnig eu cydymdeimlad i’r teulu, gan ddweud eu bod mewn cyswllt cyson â nhw.