Mae cyrff dau oedolyn ac plentyn wedi’u canfod yn dilyn adroddiadau o dân difrifol mewn ty yn ne Lloegr.

Mae Heddlu Surrey yn cadarnhau iddyn nhw gael eu galw toc wedi 11yb, ddydd Llun, i stryd yn Reigate yn dilyn pryderon ynglyn â diogelwch y bobol oedd yn byw yno.

“Roedd y ty wedi’i ddifrodi’n sylweddol gan dân,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu, “ac roedd tri o bobol, dau oedolyn ac un plentyn, wedi marw y tu fewn.”

Mae ymchwilwyr yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Surrey er mwyn ceisio penderfynu sut y cynheuodd y tân.